Dydd Sadwrn 19 Gorffennaf

The Blackout yng Nghanolfan Gelf y Miwni!

Y band o Ferthyr Tudful, The Blackout, yw un o’r bandiau newydd sy’n prysur ddod yn sêr newydd y sîn roc ym Mhrydain.

Ymhlith sïon eu bod nhw’n mynd i gyrraedd y brig, erbyn hyn mae’r chwechawd yn perfformio gyda bandiau fel y Lostprophets, Funeral For A Friend, The Used a’r Gallows. Wedi’i enwebu am wobr y Band Newydd Gorau yng Ngwobrau 2006 Kerrang, mae’r criw o’r Cymoedd wedi torri dêl gyda label Fierce Panda a gyda’r label yma y rhyddhawyd ei albwm cyntaf ‘We Are the Dynamite’ yn 2007. Yr albwm yma yw’r albwm sydd wedi gwerthu fwyaf cyflym o du Fierce Panda, ac am label sydd wedi rhyddhau recordiau gan Coldplay, Keane ac Ash, mae hynny’n dipyn o lwyddiant. Mae’r band newydd ddod yn ôl o daith o America ac Ewrop ac mae cylchgrawn Kerrang a’r tebyg yn eu galw’n un o’r bandiau gorau ar hyn o bryd. Maen nhw ar daith o Ewrop ar hyn o bryd gyda Linkin Park, ond mae Penwythnos Mawr Ponty yn falch o groesawu’r arwyr lleol yma i Ganolfan Gelf y Miwni, ddydd Sadwrn 19 Gorffennaf.

Tocynnau £9.00 ar gael ymlaen llaw o Swyddfa Docynnau Canolfan Gelf y Miwni 01443 485934

 


Photo

Privacy Statement - Disclaimer

Website designed by Creative Design Rhondda Cynon Taf

Logon