|
Bydd rhywbeth at ddant pawb ym Mharc Coffa Ynysangharad eleni! Y bythgofiadwy Rhydian Roberts o’r rhaglen X-factor fydd y brif act, a bydd y gantores boblogaidd Sandi Thom ac arweinydd y nos, Chris Corcoran, yn gwneud yn siŵr y bydd y noson yn llwyddiant. Darllenwch ymlaen am fwy o fanylion!
Event Times Gates : 12.00
Concert starts : 16.00
Curfew : 21.30.
Event Subject To License - Times Subject To Change.
Gatiau’n agor: 12.00
Cyngerdd yn dechrau: 16.00
Gorffen: 21.30.
Achlysur i’w drwyddedu – Efallai bydd amseroedd yn newid.
|
|
|
Rhydian Roberts
Er iddo orffen yn ail yn y sioe dalent boblogaidd, Rhydian Roberts yw’r wyneb mwyaf cyfarwydd o gyfres ‘X Factor’ 2007, ac un o sêr newydd, mwyaf disglair Cymru. Bydd e’n rhyddhau ei albwm cyntaf nes ymlaen yn y flwyddyn ac ar ôl perfformio gyda Chymry eraill, fel The Stereophonics a Feeder, yn y gyngerdd i ddathlu’r Gamp Lawn yn Stadiwm y Mileniwm, mae’r diddanwr o fri’n barod am ei gyngerdd awyr agored gyntaf erioed ym Mhenwythnos Mawr Ponty ym Mharc Coffa Ynysangharad.
|
|
|
Sandi Thom
Yn wreiddiol o Aberdeenshire, aeth Sandi Thom i frig y siartiau yn 2006 gyda’i chân 'I Wish I Was A Punk Rocker (With Flowers In My Hair)'. Aeth y gân ymlaen i gyrraedd rhif un yn y siartiau mewn saith gwlad, â llwyddiant y sengl yn cyfrannu at werthu dros filiwn o albymau ar draws y byd. Nawr, mae’r cyfansoddwr-berfformiwr o’r Alban yn ôl gyda’i hail albwm, 'The Pink & The Lilly', a bydd ei pherfformiad ym Mhenwythnos Mawr Ponty yn rhan o’i hamserlen brysur o wyliau cerdd dros yr haf.
|
|
|
James Fox
Daeth y cyfansoddwr-berfformiwr James Fox i’r amlwg am y tro cyntaf pan gyrhaeddodd y pump olaf ar raglen dalent y BBC, ‘Fame Academy’. Ar ôl ei amser ar y rhaglen boblogaidd, cynrychiolodd James Prydain yn yr 'Eurovision Song Contest', ac fe gyrhaeddodd ei sengl gyntaf rif 12 yn siartiau Prydain. Ar ôl teithio tipyn gyda’i berfformiadau, gan gynnwys perfformio i’r Frenhines a milwyr Affganistan ac Irac, treuliodd James sbel yn chwarae rhan Judas yn y sioe gerdd Jesus Christ Superstar a’r brif ran yn sioe gerdd boblogaidd Billy Joel, 'Moving Out'.
Yn ddiweddar, mae James wedi bod yn ôl yn y siartiau gyda chân swyddogol Cwpan FA tîm Pêl-droed Dinas Caerdydd, 'Bluebirds Flying High', a gyrhaeddodd rif 15 ym mis Mai 2008.
|
|
|
Mal Pope a Miss Daisy Blue
Mae’r cerddor o Abertawe, Mal Pope, wedi treulio’i oes ym myd cerddoriaeth. Cafodd ei ddarganfod gan John Peel ac ymunodd â label recordiau Elton John yn y 70au. Mae wedi bod ar daith gyda Art Garfunkel, wedi cyfansoddi caneuon i Cliff Richard yn yr 80au ac wedi bod yn ddarlledydd uchel ei barch yn y 1990au.
Bydd llawer wedi gweld Mal yn chwarae gyda’i fand poblogaidd, The Jacks, dros y blynyddoedd, ond eleni ym Mhenwythnos Mawr Ponty, bydd Mal yn perfformio set arbennig gyda’i ferch hynod o dalentog, Miss Daisy Blue. Mae beirniaid wedi disgrifio’i llais hi fel "...siocled wedi toddi", ac mae’n edrych yn debyg y bydd y gantores jazz dalentog newydd yma’n parhau â thraddodiad cerddorol ei theulu.
|
|
|
Go: Audio
Mae’n bleser gan Bontypridd gyflwyno un o fandiau newydd mwyaf talentog Prydain, Go:Audio. Ar ôl cwrdd am y tro cyntaf yng ngŵyl Reading 6 blynedd yn ôl, mae’r grŵp wedi bod ar daith gyda bandiau fel Scouting for Girls, We are Scientists ac Elliot Minor. Bydd y band roc/dawns ifanc yma’n siŵr o ddiddanu’r gynulleidfa gyda’i arddull poblogaidd a digonedd o garisma.
|
|
|
Daz
Dros ddeng mlynedd yn ôl, daeth Daz Edwards a Luke Bradshaw at ei gilydd i ffurfio’r ddeuawd boblogaidd o’r Cymoedd, Daz. Erbyn hyn, maen nhw’n enwog am berfformio ar draws De Cymru a bydd y ddau dalentog yn perfformio’u clasuron i ddiddanu cynulleidfa Penwythnos Mawr Ponty.
|
|
|
Côr Meibion Pontypridd
Wedi’i sefydlu fel Pontypridd Educational Settlement Male Choir ym 1949, mae Côr Meibion Pontypridd yn falch iawn o’i hanes fel côr sydd wedi ennill llawer o gystadlaethau ac wedi meithrin cysylltiadau rhyngwladol cadarn. Ers ei gyngerdd cyntaf ym 1950, mae Côr Meibion Pontypridd wedi ennill yr Eisteddfod Genedlaethol, wedi perfformio gyda Syr Harry Secombe, wedi ennill Cystadleuaeth Côr Meibion HTV ac wedi chwarae rhan flaenllaw yn y dathliadau o’n hanthem, Hen Wlad Fy Nhadau.
|
|
|
Chris Corcoran
Cyflwynydd Penwythnos Mawr Ponty fydd y comedïwr lleol a llwyddiannus Chris Corcoran. Mae’r digrifwr poblogaidd yma wedi bod yn gwneud i gynulleidfaoedd chwerthin ar hyd a lled Prydain, ond mae hefyd wedi ennill ei le fel seren ar y teledu ac ar y radio - cyflwynodd Chris y 'Big Welsh Joke' ar gyfer BBC Cymru, roedd yn gyd-gyflwynydd ar 'Max Boyce's World Cup Journey' ac mae i’w glywed yn rheolaidd ar Radio Wales.
Bydd yn gyfarwydd i filiynau o blant (a mamau!) am ysgrifennu’r rhaglen boblogaidd i blant, 'Doodle Do' ar Cbeebies/BBC2 ac am chwarae llais y cymeriad doniol Miss Bunny, yr arth Gymreig, ar raglen fyw flaenllaw CBBC 'Nelly Nut'. Cafodd y ddwy raglen eu henwebu am wobr BAFTA. Mae Chris hefyd yn cyflwyno’n rheolaidd ar orsaf Radio Cbeebies.
|
|
|
Kadesha Affrica Drija
Ar ôl i’r ferch dalentog, 15 oed yma gymryd rhan yn y Prosiect Make It eleni, mae Diwydiant Miwsig yn argymell eich bod yn gwrando ar Kadesha. Mae’n ddisgybl yn Ysgol Uwchradd y Ddraenen-wen ac mae wedi bod yn chwarae’r gitâr ac yn cyfansoddi ei chaneuon ei hun ers dros flwyddyn nawr. Mae Kadesha wedi chwarae mewn nosweithiau meic agored, gwyliau a chyda bandiau jazz llwyddiannus. Mae cerddoriaeth blues/jazz/roc yn ddylanwad arni e.e. cantorion fel Ella Fitzgerald, B.B King, Walter Trout ac Etta James.
|
|
|