Ddydd Llun, 21 Gorffennaf, bydd Canolfan Gelf y Miwni ym Mhontypridd yn cynnal noson arall o gerddoriaeth a’r tro yma, bydd gwledd o gerddoriaeth glasurol i’w chael!
Bydd cerddorfa ieuenctid 90-aelod Nurtingen yn perfformio cyngerdd glasurol yng Nghanolfan Gelf y Miwni i ddathlu 40 blynedd ers gefeillio’r cyngor â thref Nurtingen yn yr Almaen.
Bydd y Côr enwog sydd wedi ennill gwobrau, Côr Meibion Pontypridd, hefyd yn perfformio gyda’r gerddorfa mewn cyngerdd sy’n addo bod yn fythgofiadwy!
Bydd Kate Woolveridge ac Owen Webb, dau o gantorion mwyaf poblogaidd Opera Cenedlaethol Cymru, yn cloi’r gyngerdd arbennig yma gyda chaneuon poblogaidd o fyd opera a sioeau cerdd. Dewch i glywed dau o leisiau mwyaf poblogaidd Cymru yn awyrgylch agos-atoch Canolfan Gelf y Miwni.
|
|